logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fe godaf Haleliwia

Fe godaf Haleliwia yng ngŵydd fy holl elynion i,
Fe godaf Haleliwia yn uwch na’m anghrediniaeth i,
Fe godaf Haleliwia, caneuon yw fy arfau i,
Fe godaf Haleliwia, a’r nef yn brwydro drosta i.

Cytgan
Fe ganaf i yng nghanol y storm,
Yn uwch ac yn uwch, fe rhua fy mawl,
Gobaith a ddaw, o’r lludw fe gôd,
Angau a drechwyd, mae’r Brenin yn fyw.

Fe godaf Haleliwia, â’r cyfan oll sydd gennyf i,
Fe godaf Haleliwia, a’r twyllwch yn fy ngadael i,
Fe godaf Haleliwia yng nghanol y dirgelwch sy,
Fe godaf Haleliwia s’gan ofn ddim gafael arnaf i.

Cytgan

Canwn yn uwch eto (Canwn yn uwch eto) (X4)
Canwn yn uwch eto (yn ngŵydd fy holl elynion i)
Canwn yn uwch eto (yn uwch na’m anghrediniaeth i)
Canwn yn uwch eto (caneuon yw fy arfau i)
Canwn yn uwch eto (a’r nef yn brwydro drosta i) (X2)
Canwn yn uwch eto.

Fe godaf Haleliwia,
Fe godaf Haleliwia,
Fe godaf Haleliwia,
Fe godaf Haleliwia.

Fe godwn Haleliwia,
Fe godwn Haleliwia,
Fe godwn Haleliwia,
Fe godwn Haleliwia.

Cyfieithiad Awdurdodedig: Arwel E. Jones
RAISE A HALLELUJAH gan HELSER J/HELSER M/SKAGGS/STEVENS
Hawlfraint ©2017 Bethel Music Publishing ( (Gwein. Song Solutions www.songsolutions.org) Cedwir pob hawl. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.
CCLI # 7153660

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint

  • Rhys Llwyd,
  • September 9, 2020