logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fe dorrodd y wawr, sancteiddier y dydd

Fe dorrodd y wawr, sancteiddier y dydd,
fe ddrylliwyd yr iau, mae’r Cadarn yn rhydd,
fe gododd y Ceidwad, boed moliant i Dduw,
fe goncrwyd marwolaeth, mae’r Iesu yn fyw!

Cyhoedder y gair, atseinier y sôn,
a thrawer y salm soniarus ei thôn,
dywedwch wrth Seion alarus a gwyw
am sychu ei dagrau, mae’r Iesu yn fyw!

NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais Williams. Defnyddir drwy ganiatâd.)

(Caneuon Ffydd 549)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 9, 2015