logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dywedwyd ganwaith na chawn fyw

Dywedwyd ganwaith na chawn fyw
gan anghrediniaeth hy,
ond ymddiriedaf yn fy Nuw:
mae’r afael sicraf fry.

Cyfamod Duw a’i arfaeth gref
yn gadarn sydd o’m tu
anghyfnewidiol ydyw ef:
mae’r afael sicraf fry.

Er beiau mawrion rif y dail
a grym euogrwydd du
Iawn ac eiriolaeth Crist yw’r sail:
mae’r afael sicraf fry.

Rhagluniaeth fawr y nef, o’m plaid
ei holl olwynion try,
agorai’r môr, pe byddai raid:
mae’r afael sicraf fry.

Caf floeddio concwest yn y man
pob gelyn draw a ffy;
cans er nad ydwyf fi ond gwan
mae’r afael sicraf fry.

PEDR FARDD, 1775-1845

(Caneuon Ffydd 677)

PowerPoint