Dragwyddol, hollalluog Iôr,
Creawdwr nef a llawr,
O gwrando ar ein gweddi daer
ar ran ein byd yn awr.
O’r golud anchwiliadwy sydd
yn nhrysorfeydd dy ras,
diwalla reidiau teulu dyn
dros ŵyneb daear las.
Yn erbyn pob gormeswr cryf
O cymer blaid y gwan;
darostwng ben y balch i lawr
a chod y tlawd i’r lan.
Bendithia holl dylwythau dyn
â rhyddid pur a hedd,
a gad i bawb gael byw heb ofn
dan nawdd dy ddwyfol wedd.
Ymostwng atom yn dy ras,
O gwrando ar ein cri,
ac mewn trugaredd, Arglwydd Iôr,
yn dirion ateb ni.
R. J. DERFEL, 1824-1905
(Caneuon Ffydd 809)
PowerPoint