logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dragwyddol Dduw, sy’n Dad holl deulu’r llawr

Dragwyddol Dduw, sy’n Dad holl deulu’r llawr,
erglyw ein cri yn ein cyfyngder mawr,
yn nos ein hadfyd rho in weled gwawr
dy heddwch di.

Dy ysig blant sy’n ebyrth trais a brad,
a dicter chwerw ar wasgar drwy bob gwlad,
a brwydro blin rhwng brodyr; O ein Tad,
erglyw ein cri.

Rhag tywallt gwaed dy blant ar erwau prudd,
rhag rhwygo eu cartrefi, nos a dydd,
rhag diffodd gobaith a rhag difa ffydd,
O arbed ni.

Rho inni ffydd yng ngrym dy gariad drud,
yng ngallu gwaed dy groes i achub byd,
a boed i’n calon heddiw fod yn grud
i’th heddwch di.

A gwna dy blant drwy’r byd yn deulu Duw,
mewn cariad a thangnefedd fyth yn byw,
a’r nefol gân yn torri ar eu clyw:
“Boed hedd i chwi.”

LLYWELYN C. HUWS, 1893-1980 © Rhiannon Hoddinott.  Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 862)

PowerPoint