logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Does neb ond ef, fy Iesu hardd

‘Does neb ond ef, fy Iesu hardd,
A ddichon lanw ‘mryd;
Fy holl gysuron byth a dardd
O’i ddirfawr angau drud.

‘Does dim yn gwir ddifyrru f’oes
Helbulus yn y byd
Ond golwg mynych ar y groes
Lle talwyd Iawn mewn pryd.

Mi welaf le mewn marwol glwy’
I’r euog guddio’i ben,
Ac yma llechaf nes mynd drwy
Bob aflwydd is y nen.

William Edwards (1773-1853)

(Caneuon Ffydd 489)

PowerPoint

 

  • Gwenda Jenkins,
  • March 24, 2015