logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Does destun gwiw i’m cân

‘Does destun gwiw i’m cân
ond cariad f’Arglwydd glân
a’i farwol glwy’;
griddfannau Calfarî
ac angau Iesu cu
yw ‘nghân a’m bywyd i:
Hosanna mwy!

Caniadau’r nefol gôr
sydd oll i’m Harglwydd Iôr
a’i ddwyfol glwy’;
y brwydrau wedi troi,
gelynion wedi ffoi
sy’n gwneud i’r dyrfa roi
Hosanna mwy!

O wyrthiau’i gariad ef!
Ni all holl ddoniau’r nef
eu dirnad hwy;
mae hyn i mi’n beth syn:
i riddfan pen y bryn
droi’n gân i mi fel hyn:
Hosanna mwy!

ALUN, 1797-1840

(Caneuon Ffydd 535)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015