logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Diolchgarwch lanwo ’nghalon i

Pennill 1
Diolchgarwch lanwo ’nghalon i
I’r Hwn a ddug fy nghur,
Fe blymiodd ddyfnder du fy ngwarth
Ces fywyd newydd, gwir;
Do, chwalodd felltith ’mhechod cas
A’m gwisgo yn Ei wawl,
‘Sgrifennodd ddeddf cyfiawnder pur
Yn rymus ar fy mron.

Pennill 2
Diolchgarwch lanwo ’nghalon i
I’r Hwn sy’n dal fy llaw;
Mae’n boddi’m gwendid trist â’i nerth
Diflannu wna pob braw;
Ei addewid Ef sy’n ddigon im
Wrth gerdded ar fy nhaith.
Â’i freichiau dwyfol mae’n fy nal,
Corona fi â’i ras.

Pennill 3
Diolchgarwch lanwo ’nghalon i
I’r Hwn deyrnasa fry;
Ei ddoethineb yw fy nefol hedd,
A’i gariad yw fy mryd.
Pob dydd sydd imi dan y rhod
Y Brenin, Ef a’u rhoes.
Am hynny, rhoddaf innau f’oll
I’w ddilyn drwy fy oes.

Diolchgarwch lanwo ’nghalon i
My heart is filled with thankfulness, Keith Getty | Stuart Townend (Cyf. Linda Lockley)
© 2003 Thankyou Music (Gwein. gan Integrity Music)

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • March 3, 2021