logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Deui atom yn ein gwendid

Deui atom yn ein gwendid
gan ein codi ar ein traed,
drwy dy Ysbryd, drwy dy bobol,
sefyll yr wyt ti o’n plaid.

Deui atom yn ein trallod
gyda chysur yn dy lais,
drwy dy Ysbryd, drwy dy bobol,
parod wyt i wrando’n cais.

Deui atom mewn cymdogion
am it weld ein lludded ni:
ti yw’r Ysbryd, ni dy bobol,
taenu wnawn dy gariad di.

GLEN BAKER (God, you meet us in our weakness), cyf. CYNTHIA SAUNDERS DAVIES 
© Patricia Baker, Wood Lake Publishing, www.woodlake.com Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 849)

PowerPoint