logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Daioni yr Iesu

Pennill 1
Tyrd, fy nghalon wan, nawr at Iesu
Tyrd, fy enaid petrus a gwêl
Y mae cariad pur a chysur yn dy ing

Gorffwys yn Ei berffaith hedd

Corws
O, ddaioni, daioni yr Iesu
Rwyf yn fodlon, nid oes angen mwy
Boed fel hyn, doed a ddêl, i mi orffwys bob dydd
Yn naioni yr Iesu

Pennill 2
Gwêl beth all y byd fyth mo’i gynnig
Tyrd a chael d’orfoledd yn llawn
Profa’r dyfroedd bywiol, ni fydd syched mwy
Gorffwys yn Ei berffaith hedd

Corws

Pennill 3
Tyrd â chael dy obaith yn Iesu
Mae yn bopeth dd’wedodd ei fod
Gras sydd yn gorlifo nawr o’i galon Ef

Gorffwys yn Ei berffaith hedd

Corws (X2)

Diweddglo
Boed fel hyn, doed a ddêl, i mi orffwys bod dydd
Yn naioni yr Iesu

Daioni yr Iesu
The goodness of Jesus (Fiona Aghajanian | Harrison Druery | Jaywan Maxwell | Jonny Robinson | Michael Farren | Rich Thompson | Simon Gottschick)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2018 CityAlight Music (Gwein. gan Integrity Music)
Farren Love And War Publishing (Gwein. gan Integrity Music)
Integrity’s Alleluia! Music (Gwein. gan Integrity Music)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021