logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cyduned trigolion y ddaear i gyd

Cyduned trigolion y ddaear i gyd
mewn sain o glodforedd i Brynwr y byd;
mor dirion ei gariad at holl ddynol-ryw:
troseddwyr a eilw i ddychwelyd a byw.

I gadw’r colledig, o’r nefoedd y daeth
rhoi bywyd i’r marw a rhyddid i’r caeth;
am hyn gorfoleddwn, mae inni iachâd
a bywyd tragwyddol drwy haeddiant ei waed.

Prysured y dyddiau yn fuan i ben
pan foler yr Iesu gan bawb is y nen;
doed pobloedd y ddaear yn gyson i gyd
i ganmol a charu Iachawdwr y byd.

ANAD.

(Caneuon Ffydd 354)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015