logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cydlawenhawn, cyfododd Crist o’i fedd

Cydlawenhawn, cyfododd Crist o’i fedd,
ac ar ein daear torrodd gwawr o hedd;
i’r lan y daeth, ac ni all farw mwy,
mae heddiw’n harddach am ei farwol glwy’:
mae anfarwoldeb yn ei ŵyneb ef,
ac yn ei law awdurdod ucha’r nef.

Cydlawenhawn, fe ddaeth angylaidd lu
i’w hebrwng adref i’w orseddfainc fry:
mewn cwmwl gwyn yr aeth o olwg byd,
ond cofio mae am Galfarî o hyd:
ar achub dynion mae ei feddwl ef,
ac achub dynion ydyw gwaith y nef.

Cydlawenhawn, y mae i ninnau waith
i gofio’i achos drwy y ddaear faith;
ac wedi byw i brofi gallu’r groes
cawn weld ei annwyl wedd ar ddiwedd oes:
mewn gwynfyd pur cawn ganu “Iddo ef!”
diolch daear fydd yn llanw’r nef.

ELFED, 1860-1953

(Caneuon Ffydd 558)

PowerPoint