logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Clod i Dduw Dad, clod i’r Mab

Pennill 1
Duw sofran wyt, ddigymar Ri!
Y saint a’r engyl molant di
Gan blygu glin wrth orsedd gras
I Ti fo’r clodydd mwya’u bri

Pennill 2
Ym mhob dioddefaint a phob loes
Llochesaf dan dy adain di
A phob rhyw elyn cas a ffy;
Fy ngobaith wyt a’m concwest i

Cytgan 1
Clod i Dduw Dad, clod i’r Mab
Clod i’r Ysbryd, Dri yn Un.
Grym a gras sydd eiddynt hwy
Uwchlaw pob enw hyd byth mwy

Pennill 3
Profaist angau yn fy lle –
Yn d’aberth di mae ’ngobaith i.
Dy air sy’n llonni ’nghalon frau
Nawr hedd a lifa’n llwyr ddi-drai

Pont
Ti biau’r deyrnas,
Ti biau’r gallu.
Ti biau’r moliant byth bythoedd
Ti biau’r deyrnas,
Ti biau’r gallu.
Ti biau’r moliant byth bythoedd

Cytgan 2
Clod i Dduw Dad, clod i’r Mab
Clod i’r Ysbryd, Dri yn Un.
Grym a gras sydd eiddynt hwy
Uwchlaw pob enw hyd byth mwy
Uwchlaw pob enw hyd byth mwy

Clod i Dduw Dad, clod i’r Mab
Praise the Father, Praise the Son (Chris Tomlin | Ed Cash)
Cyfieithiad awdurdodedig Linda Lockley
© 2008 sixsteps Music (Gwein. gan Integrity Music)
Vamos Publishing (Gwein. gan Integrity Music)
worshiptogether.com songs (Gwein. gan Integrity Music)
Wondrously Made Songs (Gwein. gan Song Solutions www.songsolutions.org)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021