logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cân y Pererinion

Mae’r gân ar gael yn Gymraeg a Saesneg (Dogfen Word)

O Dduw ein Tad, cyfeiria’n traed
A’n tywys ni ar ein taith,
Dangosa’r ffordd drwy gwmwl a thân
Fel gwnaethost lawer gwaith.

Ynot Ti, Arglwydd, gobeithiwn,
Ynot Ti rhown ein holl ffydd,
Ar hyd ein siwrne arwain ni
Yng nghwmni Crist bob dydd.

O Iesu Grist, Goleuni’r Byd,
Ein cyfaill gorau wyt Ti,
Pan fo tywyllwch ar bob llaw
Goleua’r ffordd i ni.

O Ysbryd Glân, rho gymorth i ni
Ym mhob un dewis a chais
I garu Duw a gwneud ei waith,
A gwrando ar dy lais.

O Dduw y Drindod, Sanctaidd Un,
Ein beichiau rown i Ti,
Dy nerth sy’n ddigon at y daith,
Lle’r ei, dilynwn ni.

Geiriau: Cass Meurig
Tôn: Tra Bo Dau (tradd)

PowerPoint Dogfen Word MP3 Ppt Dwyieithog Cerddoriaeth
  • Gwenda Jenkins,
  • June 10, 2016