logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd, selia y cyfamod

Arglwydd, selia y cyfamod
wna’r disgyblion ieuainc hyn;
heddiw yn y cymun sanctaidd
dangos aberth pen y bryn;
rho ddeheulaw
dy gymdeithas iddynt hwy.

Cadw hwy rhag pob gwrthgiliad
a rhag gwadu’r broffes dda;
yn golofnau yn dy eglwys,
cedyrn, prydferth, hwythau gwna;
ysgrifenna
d’enw newydd arnynt hwy.

Diwyd fyddont yn dy winllan
o dan bwys a gwres y dydd;
mewn iawn ddefnydd o’u talentau
cynnal hwy a nertha’u ffydd;
i’r rhai ffyddlon
y llawenydd fydd heb drai.

BEN DAVIES, 1878-1958

(Caneuon Ffydd 646)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • April 29, 2015