logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd Iesu, arwain f’enaid

Arglwydd Iesu, arwain f’enaid
at y graig sydd uwch na mi,
craig safadwy mewn tymhestloedd,
craig a ddeil yng ngrym y lli;
llechu wnaf yng nghraig yr oesoedd,
deued dilyw, deued tân,
a phan chwalo’r greadigaeth
craig yr oesoedd fydd fy nghân.

Pan fo creigiau’r byd yn rhwygo
yn rhyferthwy’r farn a ddaw,
stormydd creulon arna’ i’n curo,
cedyrn fyrdd o’m cylch mewn braw:
craig yr oesoedd ddeil pryd hynny,
yn y dyfroedd, yn y tân;
draw ar gefnfor tragwyddoldeb
craig yr oesoedd fydd fy nghân.

MORSWYN 1850-93

(Caneuon Ffydd 740)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015