logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Anfeidrol Greawdwr a Thad

Anfeidrol Greawdwr a Thad,
rhagluniwr holl oesoedd y llawr:
er trigo uwchlaw pob mawrhad,
O derbyn ein diolch yn awr.
Wrth gofio dy ddoniau erioed
rhyfeddwn dosturi mor fawr:
anfeidrol Greawdwr a Thad,
rhagluniwr holl oesoedd y llawr.

Afonydd dy gariad di-drai
yw trefn dy ragluniaeth i gyd,
ac nid yw eu ffrydiau yn llai
er gwaethaf holl bechod y byd.
O maddau anwiredd dy blant
gerbron trugareddau mor ddrud:
afonydd dy gariad di-drai
yw trefn dy ragluniaeth i gyd.

Mae’n gobaith yng ngafael dy law,
na ollwng mohonom, O Dduw:
o bennau’r mynyddoedd fe ddaw
caniadau’r baradwys i’n clyw.
Rho inni lawenydd y wledd
sydd yno’n ein disgwyl bob awr:
anfeidrol Greawdwr a Thad,
rhagluniwr holl oesoedd y llawr.

SIMON B. JONES, 1894-1964 Defnyddiwyd drwy ganiatâd Jon Meirion Jones

(Caneuon Ffydd: 209)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 28, 2016