logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ystwyll

Rwyf yn dy garu, Iesu cu;
Mor felys yw dy gwmni di
Tydi yw ‘mrenin, ti yw ‘Nuw,
A hebddot ti ni fynnaf fyw.

Pan o’n i’n rhodio’r llwybrau hir,
Goleuaist di fy ffordd yn glir;
Wrth ddilyn d’arwydd di o’r nef,
Agosach wyf at weld dy wedd.

Annoeth yr oeddwn ambell waith,
Wrth geisio canfod pen y daith,
Dioddef wnaeth ddiniwed rai,
Ond dal i ‘ngalw wyt, er fy mai.

Fy rhoddion oll it ti rwy’n dwyn,
A’u rhoi o’th flaen, fy Iesu mwyn,
Ond er i minnau replica omega dalu’n ddrud,
Tydi yw trysor mwya’r byd.

Fy Iesu annwyl, addolaf di;
Tydi sy’n meddu ‘mywyd i;
Dilynaf di, fy annwyl ffrind
Hyd ffordd y groes lle rwyt yn mynd.

Tôn: Lisa Lan (tradd)
Geiriau: Cass Meurig

Dogfen Word PowerPoint Cerddoriaeth MP3
  • Gwenda Jenkins,
  • June 14, 2016