logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ysbryd Glân, golomen nef

Ysbryd Glân, golomen nef,
gwrando’n rasol ar ein llef;
aethom yn wywedig iawn,
disgyn yn dy ddwyfol ddawn.

Oer ein serch, a gwan ein ffydd,
ein Hosanna’n ddistaw sydd;
tyred, tyred, Ysbryd Glân,
ennyn ynom nefol dân.

Er na haeddwn ni dy gael,
eto ti wyt Ysbryd hael;
tyred, tyred yn dy ras,
maedda’n hanghrediniaeth gas.

Ysbryd Glân, golomen nef,
cod ni ar dy adain gref;
nes cyrhaeddwn uwch y byd
mewn sancteiddiol, nefol fryd.

ROGER EDWARDS, 1811-86

(Caneuon Ffydd 592)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015