logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ysbryd Duw, tyrd chwytha arna’i nawr

Ysbryd Duw, tyrd chwytha arna’i nawr,
Bywyd newydd rho i’m henaid i.
Tyrd ac adnewydda ’nghalon friw
Gyda phresenoldeb f’Arglwydd byw.
Gwna i’th Air fywiogi mywyd i,
Rho i’m ffydd i weld Dy law ar waith.
Gwna fi’n danbaid dros dy burdeb llwyr,
Ysbryd Duw tyrd, chwytha arna i.

Ysbryd Duw, cartrefa ynof fi,
Dangos dy lawenydd wnaf bob dydd.
Nerth dy gariad sy’n dileu pob drwg,
Pob un pechod yn fy nghalon ddu.
Mwynder fydd ar waith dros ddaear lawr,
Heuir hadau heddwch yn y tir.
Tro fy ymdrech mewn i waith o ras
Ysbryd Duw, cartrefa ynof fi.

Ysbryd Duw, Ti chwythodd ar ein byd,
Bywyd roist i’n daear hyfryd las.
Tyrd yn ôl a dangos in dy rym,
Gwna i’r eglwys awchu am dy ras.
Gad i’n gweddi godi at y nef,
Arwain ni ar hyd ei lwybrau Ef.
Gwna ni’n un er mwyn dy Sanctaidd Fab
Agor lygaid pawb i weld ei wedd.

Holy Spirit, Living Breath of God, Keith Getty & Stuart Townend.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Gwenda Jenkins
© ac yn y cyfieithiad hwn 2005 Thankyou Music/Adm. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

PowerPoint