logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ysbryd byw y deffroadau

Ysbryd byw y deffroadau,
disgyn yn dy nerth i lawr;
rhwyga’r awyr â’th daranau,
crea’r cyffroadau mawr;
chwyth drachefn y gwyntoedd cryfion
ddeffry’r meirw yn y glyn,
dyro anadliadau bywyd
yn y lladdedigion hyn.

Ysbryd yr eneiniad dwyfol,
dyro’r tywalltiadau glân,
moes y fflam oddi ar yr allor,
ennyn ynom sanctaidd dân;
difa lygredd ein calonnau,
tyn ein chwantau dan ein traed,
dyro inni wisg ddisgleirwen
wedi’i channu yn y gwaed.

R. R. MORRIS, 1852-1935

(Caneuon Ffydd 584)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015