logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Yr Iesu’n ddi-lai a’m gwared o’m gwae

Yr Iesu’n ddi-lai
a’m gwared o’m gwae;
achubodd fy mywyd,
maddeuodd fy mai;
fe’m golchodd yn rhad,
do’n wir, yn ei waed,
gan selio fy mhardwn
rhoes imi ryddhad.

Fy enaid i sydd
yn awr, nos a dydd,
am ganmol fy Iesu
a’m rhoddes yn rhydd:
ffarwél fo i’r byd
a’i bleser ynghyd;
ar drysor y nefoedd
fe redodd fy mryd.

‘Rwy’n gweled bob dydd
mai gwerthfawr yw ffydd,
pan elwy’ i borth angau
fy angor i fydd:
mwy gwerthfawr im yw
na chyfoeth Periw,
mwy diogel i’m cynnal
ddydd dial ein Duw.

MORGAN DAFYDD, m. 1762

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015