logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Yr Iesu atgyfododd

Yr Iesu atgyfododd
yn fore’r trydydd dydd;
‘n ôl talu’n llwyr ein dyled
y Meichiau ddaeth yn rhydd:
cyhoedder heddiw’r newydd
i bob creadur byw,
er marw ar Galfaria
fod Iesu eto’n fyw.

Yr Iesu atgyfododd
mewn dwyfol, dawel hedd,
dymchwelodd garchar angau
a drylliodd rwymau’r bedd;
fe ddaeth ag agoriadau
holl feddau dynol-ryw
i fyny wrth ei wregys,
mae’r Iesu eto’n fyw.

Yr Iesu atgyfododd,
nid ofnwn angau mwy,
daeth bywyd annherfynol
o’i ddwyfol, farwol glwy’;
datganwch iachawdwriaeth
yn enw Iesu gwiw;
mae’r ffordd yn rhydd i’r nefoedd,
a’r Iesu eto’n fyw.

THOMAS LEVI, 1825-1916

(Caneuon Ffydd 553)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015