logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Yr Iesu a deyrnasa’n grwn

Yr Iesu a deyrnasa’n grwn
o godiad haul hyd fachlud hwn;
ei deyrnas â o fôr i fôr
tra byddo llewyrch haul a lloer.

Teyrnasoedd, pobloedd o bob iaith,
i’w gariad rhoddant foliant maith;
babanod ifainc, llon eu llef
yn fore a’i clodforant ef.

Lle y teyrnaso, bendith fydd;
y caeth a naid o’i rwymau’n rhydd,
y blin gaiff fythol esmwythâd,
a’r holl rai rheidus, gymorth rhad.

Rhoed pob creadur, yn ddi-lyth,
neilltuol barch i’r Brenin byth;
angylion, molwch ef uwchben,
a’r ddaear dweded byth, Amen.

ISAAC WATTS, 1674-1748 (Jesus shall reign where’er the sun), cyf. DAFYDD JONES, 1711-77

(Caneuon Ffydd 245)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015