logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Yr Iawn

Yr Iawn, anfeidrol gariad yw Efe,
Fe roed digofaint Duw arno’n fy lle,
Anfeidrol werth y gwaed gaf yma’i lawr,
Neilltuol yw’r iachad i saint y llawr,
Anfeidrol werth y gwaed gaf yma’i lawr,
Neilltuol yw’r iachad i saint y llawr.

Mae hyd a lled ei rîn yn fythol wyrdd
Yr Iawn a roed i mi, – achubodd fyrdd,
Ond rhîn y gwaed a ylch ar pryniad mwy,
Nid dros y byd y mae ond dros fy nghlwy,
Ond rhîn y gwaed a ylch ar pryniad mwy,
Nid dros y byd y mae ond dros fy nghlwy.

O dwed wrth galon galed sych fy Nuw,
“Paid ofni codi pen at ddrych, rwyt fyw”
O dwed, fy mod heb un brycheun na chrych,
O’m himpio i’r wir winwydden wych.
O dwed, fy mod heb un brycheun na chrych,
O’m himpio i’r wir winwydden wych.

Seiliedig ar Eseia 53,  Tôn- Bro Aber

©Alwyn Pritchard, Rhagfyr 2018

PowerPoint MP3
  • Gwenda Jenkins,
  • April 23, 2019