logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Yr Arglwydd yw fy Mugail da

(Salm 23)

Yr Arglwydd yw fy Mugail da,
diwalla f’eisiau i;
rhydd orffwys im mewn porfa fras,
caf rodio’n hedd y lli.

Efe a ddychwel f’enaid blin,
fe’m harwain i bob awr
‘r hyd llwybrau ei gyfiawnder pur,
er mwyn ei enw mawr.

Pe rhodiwn drwy y dyffryn du
nid ofnwn ddim o’i fraw;
fy nghysur a’m hamddiffyn yw
fy Mugail sydd wrth law.

Yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr oll
arlwya ford i mi;
ag olew ira ef fy mhen,
a’m ffiol, llawn yw hi.

Daioni a thrugaredd Duw
a’m dilyn ar fy nhaith,
a chaf gartrefu gyda’m Tad
i dragwyddoldeb maith.

IEUAN S. JONES © Mrs Glenda Jones. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd:62)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • January 25, 2016