Yr Arglwydd a feddwl amdanaf,
a dyna fy nefoedd am byth;
yng nghysgod yr orsedd gadarnaf
mae’n ddigon i’r gwannaf gael nyth;
cyn duo o’r cwmwl tymhestlog
ei adain sy’n cuddio fy mhen;
caf noddfa’n ei fynwes drugarog
pan siglo colofnau y nen.
Fy Arglwydd sy’n gwisgo y lili,
mae’n cofio aderyn y to;
cyn pallo’i anfeidrol dosturi
rhaid gollwng Calfaria dros go’.
Os Duw sydd ar f’enaid ei eisiau,
mae eisiau fy enaid ar Dduw:
O gariad heb ddiwedd na dechrau,
ar gariad mor rhyfedd ‘rwy’n byw.
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 208)
PowerPoint