logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Yr anweledig Dduw

Yr anweledig Dduw
Dwi’n teimlo ynof fi
Dy Ysbryd yn cyffroi,
Cyffroi wrth ysbrydoli,
Cyffroi wrth gyd-fynegi,
Ti’n rhoi dy hun i mi.

Ti wedi’n gogoneddu,
Ti wedi’n cyfiawnhau,
Ti wedi’n mabwysiadu ni,
Ti wedi’n deinameiddio,
Ti wedi’n llwyr ryddhau
I ddod â’th deyrnas lawr i ni.

Rwy’n dy garu Iesu cu,
Wnai dy garu Di am byth,
Ti yw’r unig un a roes ei hun
Er mwyn cael byw ynof fi.
Ti yw rhosyn teca’r nêf,
Ti yw’r llaw a daflodd y sêr,
Ti’n fy mhrofi wrth fy llenwi
Ȃ gogoniant Tywysog Nêf.

Y person ffrwydrol sy’n
Partneru efo fi
Deled dy deyrnas Di;
Yn rhoi o dy haelioni,
Yn rhoi o dy ddaioni
Inni gael bod fel Ti.

©Elise Gwilym

MP3 Cordiau PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • May 14, 2019