logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Yn y dwys ddistawrwydd

Yn y dwys ddistawrwydd
dywed air, fy Nuw;
torred dy leferydd
sanctaidd ar fy nghlyw.

O fendigaid Athro,
tawel yw yr awr;
gad im weld dy wyneb,
doed dy nerth i lawr.

Ysbryd, gras a bywyd
yw dy eiriau pur;
portha fi â’r bara
sydd yn fwyd yn wir.

Dysg fi yng ngwybodaeth
dy ewyllys lân;
nerth dy gariad ynof
dry dy ddeddfau’n gân.

Megis gardd ddyfradwy,
o aroglau’n llawn,
boed fy mywyd, Arglwydd,
fore a phrynhawn.

EMILY M. GRIMES, 1864-1927 (Speak Lord in the stillness)

cyf. NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais Williams. Defnyddir drwy ganiatâd.)

(Caneuon Ffydd 781)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 9, 2015