Yn gymaint iti gofio un o’r rhain
a rhannu’n hael dy grystyn gyda’r tlawd,
a chynnig llaw i’r gwan oedd gynt ar lawr
a’i arddel ef yn gyfaill ac yn frawd,
fe’i gwnaethost, do, i’r Un sy’n Arglwydd nef,
a phrofi wnei o rin ei fendith ef.
Yn gymaint iti estyn llaw i’th god
a noddi’r gwaith a wneir mewn estron wlad
i wella cyflwr ac i adfer nerth,
a dwyn y gobaith am gael gwir iachâd,
fe’i gwnaethost, do, i’r Un sy’n Arglwydd nef,
a phrofi wnei o rin ei fendith ef.
Yn gymaint iti gofio’r rhai mewn cell
a rhannu dy gonsýrn i’r gwael eu stad,
a throi ar dro i rannu’r cysur sydd
gan sôn am Un sy’n gariad ac yn Dad;
fe’i gwnaethost, do, i’r Un sy’n Arglwydd nef,
a phrofi wnei o rin ei fendith ef.
PETER M. THOMAS Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 854)
PowerPoint