logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Yn fyddin o bobl gyffredin

Yn fyddin o bobl gyffredin,
Yn Deyrnas a chariad fel lli.
Yn ddinas, goleuni’r cenhedloedd,
Plant yr addewid ym ni.
Yn bobl a’u bywyd yn lesu,
Fe safwn yn deulu ynghyd.
Dim ond trwy ras rym yn deilwng,
Cyd-etifeddion y tir.

Mae bore yn gwawrio,
Oes newydd i ddod,
Pan fydd plant yr addewid
Yn llifo’n un er ei glod.
Gwirionedd a sathrwyd,
Ond mae amser yn dod
Pan fydd plant yr addewid
Yn llifo’n un er ei glod.

Yn bobl heb gael ein cydnabod,
Ond ynddo mae’n tynged dan sêl;
Fe’n galwyd i weithio i’n Harglwydd –
Cyflawni’i ewyllys a wêl.
Fe safwn yn gryf gyda’n gilydd,
I’r Brenin y cyfan a rown.
Ei gariad fydd inni’n dragywydd –
Cân rhyddid ganwn yn llon.

(Grym Mawl 1: 10)

Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig:Catrin Alun
(An Army of ordinary people, Dave Bilbrough)
© 1983 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk). Defnyddir trwy ganiatâd

PowerPoint