logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Yn fy nghalon rhoddodd Iesu gân o fawl

Yn fy nghalon rhoddodd Iesu gân o fawl,
yn fy nghalon rhoddodd Iesu gân o fawl,
cân gorfoledd fyth na ellir difa’i grym,
yn fy nghalon rhoddodd Iesu gân o fawl.

Dysgodd Iesu ni i fyw mewn harmonî,
dysgodd Iesu ni i fyw mewn harmonî,
holl genhedloedd daear lydan, gwnaeth ni’n un,
llun a delw’r Arglwydd Dduw sydd ar bob un.

Dysgodd Iesu ni i fyw fel teulu’r ffydd,
dysgodd Iesu ni i fyw fel teulu’r ffydd,
caru’n gilydd fel y carodd ef nyni,
gwasanaethu yw ein braint fel teulu’r ffydd.

Iesu drodd ein tristwch ni yn gân a dawns,
Iesu drodd ein tristwch ni yn gân a dawns,
trodd ein dagrau oll yn ffrydiau o lawenydd,
Iesu drodd ein tristwch ni yn gân a dawns.

GRAHAM KENDRICK (Jesus put this song into our hearts)
cyfieithiad awdurdodedig VALERIE P. JONES ac ARFON JONES
Hawlfraint © 1986 Kingsway’s Thankyou Music, P.O. Box 75 Eastbourne BN23 6N (Gweinyddwyd gan Integrity Music). Defnyddiwyd trwy ganiatâd

(Caneuon Ffydd 415, Grym Mawl 1: 85)

PowerPoint