logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Yn dy waith y mae fy mywyd

Yn dy waith y mae fy mywyd,
yn dy waith y mae fy hedd,
yn dy waith yr wyf am aros
tra bwy’r ochor hyn i’r bedd;
yn dy waith ar ôl mynd adref
drwy gystuddiau rif y gwlith:
moli’r Oen fu ar Galfaria –
dyma waith na dderfydd byth.

EVAN GRIFFITHS, 1795-1873

(Caneuon Ffydd 734)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015