Ymlaen, ymlaen, frenhinol Un,
“Hosanna!”, gwaedda’r dorf gytûn;
d’anifail llwm ymlwybra ‘mlaen
a phalmwydd dan ei draed ar daen.
Ymlaen, ymlaen, frenhinol Frawd,
yn wylaidd ar dy farwol rawd:
i goncro pechod, codi’r graith,
a thynnu colyn angau caeth.
Ymlaen, ymlaen, frenhinol Grist,
yr engyl oll sy’n syllu’n drist
o’r nefoedd mewn rhyfeddod mawr:
fe deithi at d’angheuol awr.
Ymlaen, O Fab y Dyn di-fraw,
mae’r olaf ffyrnig frwydyr draw;
y Tad o uchder gorsedd nef
sy’n disgwyl ei Eneiniog ef.
Ymlaen, ymlaen, frenhinol Oen,
â gwylaidd rwysg ar lwybrau poen;
‘n ôl gwyro pen dan farwol glwy’,
O Grist, mewn grym teyrnasa mwy.
H. H. MILMAN, 1791-1868 cyf. HYWEL M. GRIFFITHS © Siân Griffiths. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 238)
PowerPoint