logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ymhlith holl ryfeddodau’r nef

Ymhlith holl ryfeddodau’r nef
hwn yw y mwyaf un
gweld yr anfeidrol, ddwyfol Fod
yn gwisgo natur dyn.

Ni chaiff fod eisiau fyth, tra bo
un seren yn y nef,
ar neb o’r rhai a roddo’u pwys
ar ei gyfiawnder ef.

Doed y trueiniaid yma ‘nghyd,
finteioedd heb ddim rhi’;
cânt eu diwallu oll yn llawn
o ras y nefoedd fry.

Fe ylch ein beiau i ffwrdd â’i waed,
fe’n canna oll yn wyn,
fe’n dwg o’r anial maith i maes
i ganu ar Seion fryn.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 292; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 41)

PowerPoint

 

 

 

 

 

  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2015