logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ymddiried

[Salmau 56-57, Alaw: Os daw ‘nghariad]

Gweddïaf am drugaredd, am drugaredd,
Ac erfyn ar fy Nuw.
Wrth geisio bod yn llawen, bod yn llawen,
Ni fedraf yn fy myw.
Mae pryderon yn gwasgu arnaf,
Yn pwyso’n drwm drwy’r dydd,
A llawer gofid meddwl, gofid meddwl
Yn torri ‘nghalon i.

O fy Arglwydd, cod fi fyny, cod fi fyny
Pan deimlaf ofn a braw.
Rwyf am guddio dan d’adenydd, dan d’adenydd
Nes i’r stormydd fynd fan draw.
Rwyf yn galw ar Dduw, y Goruchaf
Sy’n gweithredu drosof fi,
Bydd yn anfon ei wirionedd, ei wirionedd
A’i gariad ataf i.

Os daw gofid yma heno, yma heno,
Fe ganaf glod a mawl.
Yn gadarn mae fy nghalon, mae fy nghalon,
Rhof ddiolch o flaen pawb.
Yn Nuw yr wyf yn ymddiried,
Beth all pobl ei wneud i mi?
Yn y dydd y galwaf arno, galwaf arno
Mi wn fod Duw o’m tu.

© Cass Meurig, Tachwedd 2018

PowerPoint PDF MP3
  • Gwenda Jenkins,
  • April 23, 2019