logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ymddiried wnaf yn Nuw

Ymddiried wnaf yn Nuw
er dued ydyw’r nos;
daw ei addewid ef
fel golau seren dlos:
mae nos a Duw yn llawer gwell
na golau ddydd a Duw ymhell.

Ymddiried wnaf yn Nuw
er trymed ydyw’r groes;
er cael fy llethu bron
gan ing a chwerw loes:
caf nerth gan Dduw o ddydd i ddydd
i gario’r groes yng nghymorth ffydd.

Ymddiried wnaf yn Nuw
ar lwybrau blin a serth;
yn anawsterau’r ffordd
daw imi fwy o nerth:
caf gwmni’r plant drwy’r anial maith
a chroeso’r Tad ar ben y daith.

PENRITH (G. Penrith Thomas, 1854-1952) (Caneuon Ffydd 77)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • October 15, 2019