logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Yma’n hedd y mynydd sanctaidd

Yma’n hedd y mynydd sanctaidd,
Iesu annwyl, wele ni,
gad i’th weision weld o’r newydd
fawredd dy ogoniant di.

Cuddier ni dan ddwyfol adain
yn dy gwmni, Iesu mawr,
torred arnom drwy’r cymylau
glaer oleuni’r nefol wawr.

Tyner eiriau’r Tad fo’n disgyn
o’r uchelder ar ein clyw
yn cyhoeddi bod i’r euog
hedd tragwyddol ym Mab Duw.

Gad in weld yng ngolau’r mynydd
fyd dolurus dan ei bla,
dysg i ninnau drin ei friwiau
yn dy nerth, O Feddyg da.

THOMAS JONES, 1880-1963 © Bethan Jones, Hefin Jones

(Caneuon Ffydd 621)

PowerPoint