logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Y Nefoedd – Afon bur o ddwfr y bywyd

Y Nefoedd
(yn seiliedig ar Datguddiad 22:1-9)

Afon bur o ddwfr y bywyd,
O fy Arglwydd rhoist i mi
Iachawdwriaeth, do fe gefais,
Drwy dy waed ar Galfari,
Iachawdwriaeth, do fe gefais,
Drwy dy waed ar Galfari.

Afon bur o ddwfr y bywyd,
Disglair fel y grisial yw,
Yn dod allan o orseddfainc
Iesu’r oen yn nefoedd Duw,
Yn dod allan o orseddfainc
Iesu’r oen yn nefoedd Duw.

Afon bur o ddwfr y bywyd,
A phob melltith nawr ni bydd,
Ond cydsynio, gweld dy wyneb
Ni bydd nos ond golau dydd.
Ond cydsynio, gweld dy wyneb
Ni bydd nos ond golau dydd.

Afon bur o ddwfr y bywyd,
Yn y nef mor olau yw,
Heb un gannwyll, haul na machlud ,
Yn y nef, addola Dduw,
Heb un gannwyll, haul na machlud ,
Yn y nef, addola Dduw.

Geiriau: Alwyn Pritchard
Tôn- ‘Regents Square  (Caneuon Ffydd 153)

PowerPoint Regent’s Square

I glywed Regent’s Square, pwyswch y botwm a dewiswch, ‘Audio Files – Midi’ neu ‘Recording’.

  • Gwenda Jenkins,
  • July 12, 2018