logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Y man y bo fy Arglwydd mawr

Y man y bo fy Arglwydd mawr
Yn rhoi ei nefol hedd i lawr,
Mae holl hapusrwydd maith y byd,
A’r nef ei hunan yno i gyd.

Nid oes na haul na sêr na lloer,
Na daear fawr a’i holl ystôr,
Na brawd, na chyfaill, da na dyn,
A’m boddia hebddo Ef ei Hun.

‘D yw’r gair “maddeuant” imi ddim,
Nid oes mewn gweddi ronyn grym,
A llais heb sylwedd ŷnt i gyd,
Heb imi weld ei ŵyneb-pryd.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2017