logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Y mae ysbryd yr Arglwydd Dduw arnaf fi

Y mae ysbryd yr Arglwydd Dduw arnaf fi,
Oherwydd i’r Arglwydd f’eneinio,
I ddwyn newydd da i’r darostyngedig,
A chysuro’r toredig o galon;
I gyhoeddi rhyddid i’r caethion,
Rhoi gollyngdod i’r carcharorion,
I gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd
A dydd dial ein Duw ni.

Cytgan:
I ddiddanu pawb sy’n galaru,
A gofalu am alarwyr Seion.

Ail-adrodd

Rhoi inni goron yn lle lludw,
Olew llawenydd yn lle galar.

Mantell ysblennydd yn lle digalondid.

Byddwn ni’n cael ein galw yn brennau hardd
Sy’n arddangos ysblander yr Arglwydd
I ni ail-adeiladu yr hen adfeilion –
Adfer trefi oedd wedi eu difa;
Cawn ein galw’n ‘Offeiriaid yr Arglwydd’
‘Gweision Duw’ yw y teitl fydd arnom ni,
Dim cywilydd fyddwn ni yn ei dderbyn
Ond siâr ddwbl ein Duw ni.

Ailadrodd popeth o’r dechrau.

© 2005 Elise Gwilym o’r CD Tiwnio Mewn

PowerPoint PDF Cordiau English Words MP3