logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Y mae trysorau gras

Y mae trysorau gras
yn llifo fel y môr,
mae yn fy annwyl Frawd
ryw gyfoeth mawr yn stôr:
ymlaen yr af er dued wyf,
mae digon yn ei farwol glwyf.

Ni chollodd neb mo’r dydd
a fentrodd arno ef,
mae’n gwrando cwyn y gwan
o ganol nef y nef:
ac am fod Iesu’n eiriol fry
caiff Seion fyw er gwaetha’r llu.

WILLIAM LEWIS, m.1794

(Caneuon Ffydd 310)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015