logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Y mae hiraeth arnom, Arglwydd

Y mae hiraeth arnom, Arglwydd,
am dy Ysbryd ar ein hynt,
i’n sancteiddio a’n hadfywio
megis yn y dyddiau gynt:
O disgynned
nawr fel gwlith neu dyner law.

Gwna ni’n iraidd fel y glaswellt
o dan faethlon wlith y nen;
gwna ni’n ffrwythlon fel y gwinwydd,
prydferth fel y lili wen,
er gogoniant
byth i’th enw annwyl di.

MYFYR EMLYN, 1836-93

(Caneuon Ffydd 574)

PowerPoint