logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Y mae hapusrwydd pawb o’r byd

Y mae hapusrwydd pawb o’r byd
Yn gorffwys yn dy angau drud;
Hyfrytaf waith angylion fry
Yw canu am fynydd Calfari.

O holl weithredoedd nef yn un,
Y bennaf oll oedd prynu dyn;
Rhyfeddod mwyaf o bob oes
Yw Iesu’n marw ar y groes!

Darfydded canmol neb rhyw un,
Darfydded sôn am haeddiant dyn;
Darfydded ymffrost o bob rhyw –
‘Does ymffrost ond yn ngwaed fy Nuw.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 179)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015