logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Y mae gennyf drysor

Y mae gennyf drysor,
trysor mwy na’r byd
yn yr Iesu hawddgar,
cyfaill plant y byd.

Cytgan:
Y mae gennyf drysor,
Arglwydd nef a llawr;
Yn ei ddwyfol gariad
Mae ’ngorfoledd mawr.

Y mae gennyf drysor,
gweddi ato ef;
nid yw ef yn gwrthod,
cais yr isel lef.

Y mae gennyf drysor,
rhodio gyda Brawd;
ddaeth i blith ei frodyr,
er eu mwyn, yn dlawd.

Y mae gennyf drysor,
gwasanaethu f’oes;
dros y Gŵr fu farw,
unwaith ar y groes.

Lewis Valentine © Catrin Gweirrul Hughes. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

PowerPoint

(Caneuon Ffydd: 399)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2016