logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Y Deg Rheol

Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma’r ffordd i fyw,
Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’

Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma Reol Un:
Paid cael duwiau eraill,
Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’

Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma Reol Dau:
Paid addoli pethau,
Paid cael duwiau eraill,
Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’

Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma Reol Tri:
Paid dweud ‘Duw’ heb feddwl,
Paid addoli pethau,
Paid cael duwiau eraill,
Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’

Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma Reol Pedwar:
Cadw’r Sul i mi!
Paid dweud ‘Duw’ heb feddwl,
Paid addoli pethau,
Paid cael duwiau eraill,
Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’

Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma Reol Pump:
Parcha dy rieni,
Cadw’r Sul i mi!
Paid dweud ‘Duw’ heb feddwl,
Paid addoli pethau,
Paid cael duwiau eraill,
Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’

Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma Reol Chwech:
Paid byth â lladd,
Parcha dy rieni,
Cadw’r Sul i mi!
Paid dweud ‘Duw’ heb feddwl,
Paid addoli pethau,
Paid cael duwiau eraill,
Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’

Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma Reol Saith:
Paid â thorri’ch priodas,
Paid byth â lladd,
Parcha dy rieni,
Cadw’r Sul i mi!
Paid dweud ‘Duw’ heb feddwl,
Paid addoli pethau,
Paid cael duwiau eraill,
Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’

Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma Reol Wyth:
Paid byth â dwyn,
Paid â thorri’ch priodas,
Paid byth â lladd,
Parcha dy rieni,
Cadw’r Sul i mi!
Paid dweud ‘Duw’ heb feddwl,
Paid addoli pethau,
Paid cael duwiau eraill,
Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’

Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma Reol Naw:
Paid â dweud celwydd,
Paid byth â dwyn,
Paid â thorri’ch priodas,
Paid byth â lladd,
Parcha dy rieni,
Cadw’r Sul i mi!
Paid dweud ‘Duw’ heb feddwl,
Paid addoli pethau,
Paid cael duwiau eraill,
Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’

Dywedodd Duw wrth Moses, ‘Nawr dyma Reol Deg:
Paid â bod eisiau pethau pobl eraill,
Paid â dweud celwydd,
Paid byth â dwyn,
Paid â thorri’ch priodas,
Paid byth â lladd,
Parcha dy rieni,
Cadw’r Sul i mi!
Paid dweud ‘Duw’ heb feddwl,
Paid addoli pethau,
Paid cael duwiau eraill,
Achos Fi ydy’r Arglwydd dy Dduw.’

Geiriau: Cass Meurig
Tôn: The Twelve Days of Christmas (tradd)

Dogfen Word PowerPoint MP3 Cerddoriaeth
  • Gwenda Jenkins,
  • June 14, 2016