logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Y bore hwn, drwy buraf hedd

Y bore hwn, drwy buraf hedd,
gwir sain gorfoledd sydd
ymhlith bugeiliaid isel-fri,
cyn torri gwawr y dydd.

Gwrandawed pob pechadur gwan
sy’n plygu dan ei bla,
angylion nef, â’u llef yn llon
yn dwyn newyddion da.

I Fethlem Jwda, dyma’r dydd,
daeth newydd da o’r nef,
Duw ymddangosodd yn y cnawd,
ein Brawd yn wir yw ef.

O wele’r Bod sy’n dal y byd,
yn fud ar lin ei fam;
newydd ei eni’n nawdd i ddyn,
yn hŷn nag Abraham.

Rhyfeddwn byth, tra byddwn fyw,
ddaioni Duw i ddyn;
yr Iesu’n aberth roed i ni
drwy nawdd y Tri yn Un.

JOHN THOMAS, 1742-1818

(Caneuon Ffydd 437)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 19, 2015