logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Y Balm o Gilead

Mae balm Gilead fel y gwin
A bythol nerthol yw ei rîn
A nerthol yw ei rîn.
Iachau fy nghlwyfau dyfnion du
Wna gwaed y groes, mae Ef o’m tu
Yr Iesu sydd o’m tu.

Pwy ylch fy meiau eto ma’s
Pwy ond Efe yn ddyn o’m tras
Efe yn ddyn o’m tras.
Yn Dduw a’i ddyndod yn gytun,
Cynhaliwr bod a mab y dyn
Yr Iesu’n Dduw a dyn.

Ewch ymaith ddelwau, cymer fi
O dwed fy mod yn un â thi
Fy mod yn un â thi.
Mae’r balm yn rhad fe ddown yn llu,
Y mae’r ffisigwr yn y tŷ
Ffisigwr yn y tŷ.

©Alwyn Pritchard,  29 Ionawr 2019
Seiliedig ar Jeremeia 8:22
Awgrymir – Tôn: Pembroke (215 Caneuon Ffydd)

PowerPoint MP3
  • Gwenda Jenkins,
  • April 23, 2019