logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Wyddoch chwi pwy wnaeth yr haf?

Wyddoch chwi pwy wnaeth yr haf?
Neb ond Duw, neb ond Duw.
Pwy a wnaeth y tywydd braf?
Neb ond Duw, neb ond Duw.

Wyddoch chwi pwy wnaeth y glaw?
Neb ond Duw, neb ond Duw.
Pwy wnaeth fôr sy’n ‘mestyn draw?
Neb ond Duw, neb ond Duw.

Wyddoch chwi pwy wnaeth y byd?
Neb ond Duw, neb ond Duw.
Pwy a wnaeth y sêr i gyd?
Neb ond Duw, neb ond Duw.

Wyddoch chwi beth ydyw Duw?
Cariad yw, cariad yw.
Ef wna inni fod yn fyw:
neb ond Duw, neb ond Duw.

GWYN THOMAS Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 129)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 28, 2016