logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Wrth gofio’i riddfannau’n yr ardd

Wrth gofio’i riddfannau’n yr ardd,
a’i chwŷs fel defnynnau o waed,
aredig ar gefn oedd mor hardd,
a’i daro â chleddyf ei Dad,
a’i arwain i Galfari fryn,
a’i hoelio ar groesbren o’i fodd;
pa dafod all dewi am hyn?
Pa galon mor galed na thodd?

THOMAS LEWIS, 1760-1842

(Caneuon Ffydd 519)

PowerPoint
 

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015